Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi polisi i gefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ymdopi gydag effaith coronafeirws heddiw (dydd Llun, Ebrill 20).

Lansiodd Kirsty Williams Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu  ar y diwrnod sy’n nodi dechrau tymor yr haf mewn ysgolion ledled Cymru.

Cymru yw’r unig un o wledydd Prydain sydd wedi darparu cyfarwyddyd ac adnoddau cenedlaethol o’r  math yma.

Dywed datganiad gan Kirsty Williams fod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r polisi newydd er mwyn gwarchod diogelwch ac iechyd corfforol a meddyliol disgyblion yn ogystal â’r gweithlu addysg.

Maen nhw am weld disgyblion yn parhau i dderbyn addysg tan y bydd modd symud y dysgwyr yn ôl i’r ysgol.

“Lliniaru’r effaith”

“Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith cau ysgolion ar ein plant ni, yn enwedig y plant hynny sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf yn ôl yr hyn mae ymchwil yn ei ddangos,” meddai Kirsty Williams.

“Mae arweinwyr ac athrawon wedi wynebu’r her yn ystod yr argyfwng yma ac wedi dangos hyblygrwydd ac arweinyddiaeth; bydd addysgu o bell yn galw am addasu pellach ar addysgu a ffordd wahanol o weithio.

“Hefyd byddwn yn cefnogi rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plant, gan gydnabod, er mai hwy yw prif addysgwr eu plant ar hyn o bryd, nad ydynt yn athrawon, a datgan yn glir nad ydym yn disgwyl iddynt ail-greu ysgol gartref.”

Dysgwyr cyfrwng Cymraeg

Dywed Llywodraeth Cymru bod gan ysgolion a dysgwyr cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog yr un hawl i gefnogaeth gan y polisi.

Mae sylw penodol yn cael ei roi i ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n byw mewn cartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad, gyda Llywodraeth Cymru’n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o gynnal eu cyswllt â’r iaith.

“Ni ddylem – ac ni fyddwn – yn colli golwg ar yr uchelgais ar y cyd ar gyfer pob un plentyn yn ystod y cyfnod rhyfeddol heriol hwn,” meddai Kirsty Williams.