Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried cynnal munud o dawelwch i gofio gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd (GIG) sydd wedi marw o’r coronafeirws wrth drin cleifion ar y rheng flaen.

Mae’n dilyn ymgyrch gan yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, i dalu teyrnged a chydnabod aberth gweithwyr iechyd yn ystod y pandemig.

Wrth gael ei holi ar raglen Breakfast y BBC dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden ei fod yn credu bod syniad “yn un da iawn. Ry’n ni’n edrych mewn i’r peth.”

Ychwanegodd ei fod yn obeithiol y bydd pecyn o 84 tunnell o gyfarpar diogelwch personol (PPE) yn cyrraedd o Dwrci heddiw (Dydd Llun, Ebrill 20) yn dilyn oedi ddydd Sul.