Mae siopwyr yn cael eu hannog i brynu bwyd ffres, tymhorol a chynaliadwy’n uniongyrchol gan ffermwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (NFFN) yn annog pobl i chwilio ffermydd lleol a helpu i gynaeafu bwyd os oes ganddyn nhw amser sbâr, wrth i’r Deyrnas Unedig wynebu prinder o 80,000 o weithwyr yn sgil y coronafeirws.
Mewn adroddiad newydd, dywed y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur bod cefnogi ffermwyr sy’n ffermio mewn ffordd sy’n gwarchod y tirwedd a bywyd gwyllt ac yn mynd i’r afael â newid hinsawdd yn sicrhau cyflenwad mwy gwydn.
“Rydym yn ymwybodol o nifer o ffermwyr sydd â chyflenwad da o fwyd ond y broblem yw cysylltu gyda’r cyhoedd,” meddai Martin Lines, ffarmwr o Swydd Caergrawnt a chadeirydd y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur.
“Mae nifer o’r cadwyni cyflenwi wedi cael eu torri, sydd wedi arwain at nifer o ffermwyr yn addasu model eu busnesau er mwyn gallu darparu bwyd i bobl yn uniongyrchol.”
Un o aelodau blaenllaw’r Rhwydwaith yng Nghymru yw Polly Davies, sy’n ffermio Slade Farm ym Mro Morgannwg.
“Er ein bod ni wedi colli gwirfoddolwyr sy’n helpu i blannu, chwynnu a pharatoi llysiau, mae ein cynllun blychau llysiau wedi cael hwb enfawr,” meddai. “Rydym wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i bentrefi o gwmpas y fferm ac i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.”