Roedd cyfradd marwolaethau dynion o’r coronafeirws ddwywaith yn uwch na marwolaethau merched yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mawrth.
Roedd Covid-19 yn cyfrif am 7% o’r holl farwolaethau yn y ddwy wlad y mis diwethaf – 9% o farwolaethau dynion a 6% o farwolaethau merched.
Er hyn, roedd y gyfradd marwolaethau yn llawer is yng Nghymru nag yn Lloegr – 44.5 o farwolaethau i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru o gymharu â 69.7 o farwolaethau i bob 100,000 yn Lloegr.
Daw’r ffigurau hyn o ddadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o farwolaethau a gafodd eu cofrestru erbyn 6 Ebrill – ond gall cyfanswm y marwolaethau am fis Mawrth gynyddu wrth i ragor gael eu cofrestru.
Roedd 9 o bob 10 o’r rhai a fu farw o’r Covid-19 yn dioddef o gyflyrau iechyd eraill, yn ôl yr ONS.
Covid-19 oedd y trydydd prif achos marwolaeth ym mis Mawrth – ar ôl dementia (14% o gyfanswm y marwolaethau) ac afiechydon y galon (9% o’r cyfanswm).
Er gwaethaf yr holl achosion Covid-19, roedd cyfradd gyffredinol marwolaethau ym mis Mawrth yn sylweddol is na’r cyfartaledd pum mlynedd, meddai’r ONS.
Gallai hyn fod o ganlyniad i aeafau oerach yn 2015 a 2018, a arweiniodd at nifer uwch o farwolaethau.