Mae cyn-filwr Capten Tom Moore, 99, wedi llwyddo i godi £12 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gerdded 100 o weithiau o gwmpas ei ardd.

Gorffennodd Capten Tom Moore y pedair lap 25 metr olaf yn ei dŷ fore dydd Iau (Ebrill 16), gyda bataliwn gyntaf Catrawd Swydd Efrog yn perfformio guard of honour iddo.

Wrth siarad ar y llinell derfyn, dywedodd ei fod yn teimlo’n “iawn” a bod ganddo’r “math iawn o bobl o’i gwmpas.”

Gan drafod y pandemig coronafeirws, ychwanegodd: “Fe ddown ni drwy hyn ond mae’n mynd i gymryd amser, fe fyddwn ni’n iawn eto, bydd yr haul yn tywynnu a’r cymylau’n cilio.”

Roedd Capten Tom Moore wedi bwriadu cyrraedd ei darged cyn ei ben-blwydd yn 100 mlwydd oed ar Ebrill 30 i helpu’r sawl sy’n brwydro coronafeirws ar y rheng flaen.

Dywed fod y feirws wedi effeithio ar ei gynlluniau am batri pen-blwydd ond fod y gefnogaeth a chariad cenedlaethol roedd wedi ei dderbyn yn “ddigon o barti i mi.”

Ar ôl chwalu ei darged cyntaf o godi £1,000 mae Capten Tom Moore bellach wedi codi £12.3 miliwn, gan ddweud bod staff meddygol “yn haeddu popeth allwn roi iddynt.”

Wrth siarad gyda ITV fore dydd Iau, dywed fod haelioni’r cyhoedd wedi bod yn “anhygoel.”