Mae peiriant anadlu sydd wedi cael ei ddatblygu gan Dr Rhys Thomas, arbenigwr yn Ysbyty Glangwili, wedi cael ei groesawu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r peiriant anadlu newydd i drin cleifion y coronafeirws wedi cael ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Cafodd ei ddatblygu gyda chymorth gwmni peirianneg Maurice Clarke yn Rhydaman ac mae bellach yn destun treialon clinigol.

“Mae hon yn enghraifft wych o arbenigedd meddygol a thechnegol yn dod at ei gilydd ar adeg dyngedfennol i ymateb i’r her aruthrol o ddelio â’r feirws ofnadwy hwn,” meddai Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

“Calonogol yw gweld y sector busnes lleol yn flaenllaw o ran dyfeisgarwch a mentergarwch yn yr argyfwng presennol.”

Cleifion yn Sir Gaerfyrddin

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn addasu wardiau ysbytai i drin cleifion coronafeirws sy’n ddifrifol wael yn ogystal â sefydlu pedwar ysbyty maes yn y sir.

Y bwriad yw troi canolfannau hamdden Caerfyrddin a Llanelli, Canolfan Selwyn Samuel, a Pharc y Scarlets yn ysbytai maes er mwyn darparu gwlâu ychwanegol i gleifion.

“Bellach mae gan y peiriant CPAP addawol hwn y cynlluniau priodol a’r gefnogaeth ledled Cymru i fod yn destun gwerthusiad cyflym a gofalus gyda chleifion, ac rydym yn disgwyl canlyniadau’r treialon hyn yn eiddgar,” meddai’r Athro Keir Lewis, Arweinydd Anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.