Mae un o brif arbenigwyr clinigol yr Alban yn wfftio adroddiadau’r Times fod Llywodraeth Prydain yn blaenoriaethu Lloegr dros wledydd eraill Prydain wrth ddosbarthu cyfarpar diogelu personol ar gyfer y coronafeirws.

Yn ôl Jason Leitch, mae pedair gwlad Prydain “wedi eu halinio fwy neu lai” yn eu hymateb i’r feirws ac y gallai’r Alban gael cyfarpar gan gynhyrchwyr Albanaidd neu dramor.

Daw ei sylwadau ar ôl i Scottish Care, sy’n cynrychioli cartrefi gofal yn yr Alban, ddweud nad oedd y cynhyrchwyr mwyaf yn rhoi cyfarpar i’r Alban gan mai darparwyr gwasanaethau yn Lloegr oedd yn cael y flaenoriaeth.

Ac yn ôl y Times, mae cwmni Gompels yn Wiltshire wedi gwrthod anfon cyflenwadau i’r Alban a Chymru am fod ganddyn nhw gytundeb arbennig â Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

“Ry’n ni wedi edrych ar y peth ac yn credu ei fod yn sothach,” meddai Jason Leitch.

“Felly fe ddywedodd y cwmnïau a’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Iechyd Lloegr nad oedd yn wir pan siaradon ni â nhw.”

‘Brwydr pedair gwlad’

Mae’n dweud nad trwy Loegr yn unig y gall yr Alban gael gafael ar gyfarpar diogelu, a bod modd eu harchebu trwy ddarparwyr Albanaidd a thramor.

“Rydyn ni mewn brwydr pedair gwlad yn erbyn y feirws yma,” meddai.

“Wir i chi, efallai na fydd pobol yn fy nghredu i, ond mae’r frwydr pedair gwlad honno wedi’i halinio, fwy neu lai.”

Ond mae’n cydnabod fod yna broblem wrth ddosbarthu i gartrefi gofal sydd heb archebu’r fath gyfarpar o’r blaen.

“Ond mae hynny’n cael ei ddatrys yn gyflym iawn, iawn nawr.

“Dw i’n fwy hyderus o lawer nag yr oeddwn i wythnos yn ôl, hyd yn oed, fod hynny am weithio.”