Mae swyddog diogelwch teithwyr yn dweud bod gyrwyr bws sy’n gorfod ymdrin ag arian parod mewn perygl difrifol o gael eu heintio â’r coronafeirws.

Mae Bobby Morton o Undeb Unite yn dweud  ei fod wedi clywed “straeon erchyll bob dydd”.

“Rwy’ eisoes wedi derbyn galwadau bore ’ma gan yrwyr sydd wedi dychryn yn llwyr oherwydd y perygl,” meddai wrth Radio 4.

“Mae’r gyrwyr yn delio ag arian parod, felly mae’r feirws yn gallu cael ei drosglwyddo iddyn nhw mewn eiliad.

“Mae’n hawdd dweud wrth bobol i olchi eu dwylo’n rheolaidd mewn dŵr poeth – ond os nad oes cyfleusterau i wneud hynny, dydy pobol ddim yn gwneud hynny.

“Dylai’r risg gael ei ddileu, nid ei leihau.

“Rwy’n parhau i rygnu ymlaen ym mhob man am arian parod – mae’n lladd – pe bawn i’n gyrru bws byswn i’n gwrthod cyffwrdd ag unrhyw arian o gwbl.”

Systemau di-gyffwrdd

Erbyn hyn, mae systemau di-gyswllt yn cael ei defnyddio gan sawl cwmni yng Nghymru.

Er nad oes modd i gwmnïau orfodi cwsmeriaid i dalu gan ddefnyddio cerdyn, mae cwmni Lloyds Coaches o Fachynlleth sydd yn gyfrifol am rai o wasanaethau Traws Cymru yn annog cwsmeriaid i dalu â cherdyn lle bo’n bosib.

“Er mwyn ceisio diogelu lles ein staff a’n teithwyr, rydym yn annog teithwyr i ddefnyddio taliadau di-gyswllt ar ein bysiau.

“Peidiwch â phoeni os nad yw’r cyfleuster hwn gennych gan ein bod yn dal i dderbyn taliadau arian parod ar bob gwasanaeth.”