Doedd 406 o bobol fu farw o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hyd at Ebrill 3 ddim wedi cael eu derbyn i’r ysbyty.
Mae’r ffigwr wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau yn cyfateb i ryw 10% o’r cyfanswm i gyd.
Roedd oddeutu dau draean ohonyn nhw yng nghartrefi gofal cwmni mwyaf gwledydd Prydain.
Mae Llywodraeth Prydain bellach dan bwysau i ymateb i’r argyfwng ymhlith y genhedlaeth hŷn, sydd ymhlith y bobol fwyaf bregus pan ddaw i gael eu heintio gan y feirws.
‘Darlun mwy realistig’
Yn ôl Syr David Behan, cyn-brif weithredwr y Comisiwn Answdd Gofal sydd bellach yn gadeirydd gweithredol HC-One, mae 232 o’r achosion yng nghartrefi gofal y cwmni hwnnw.
Mae’n dweud bod y ffigwr yn rhoi “darlun mwy realistig” o’r sefyllfa mewn cartrefi gofal nag y mae ffigurau swyddogol yn ei awgrymu.
“Rydyn ni wedi bod yn monitro’r ffigurau hyn ers dechrau’r ymlediad ac erbyn 8 o’r gloch neithiwr, roedden ni wedi cael 2,447 o achosion neu achosion posib o fewn ein cartrefi gofal,” meddai wrth Radio 4.
“Mae’n bresennol mewn 232 o’n cartrefi, sy’n cyfateb i ryw ddau draean o’r cyfanswm o gartrefi rydyn ni’n eu rheoli.”
Mae’n dweud bod 311 o breswyliaid ac un aelod o staff wedi marw, a bod y feirws yn gyfrifol am farwolaethau oddeutu traean o breswyliaid dros yr wythnosau diwethaf.
Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Prydain gadarnhau bod y coronafeirws wedi cyrraedd mwy na 2,000 o gartrefi gofal yn Lloegr.
Ond mae’n dweud y bydd ystadegau bob amser “ar ei hôl hi” o safbwynt marwolaethau mewn cartrefi gofal a henoed, ac mae’n galw am newid y ffordd mae data’n cael ei gasglu.
Sylwadau arbenigwyr iechyd
Ddydd Llun (Ebrill 13), dywedodd yr Athro Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr, fod 13.5% o gartrefi gofal yng ngwledydd Prydain wedi adrodd am ymlediad y feirws.
Mae’n galw bellach am gynnal profion yn y cartrefi.
Daw’r alwad wrth i benaethiaid y diwydiant ddweud bod y ffigurau’n diystyru cannoedd o bobol sydd wedi marw mewn cartrefi.
Mae’r Blaid Lafur bellach yn galw am gyhoeddi’n ddyddiol faint o bobol sydd wedi marw mewn cartrefi gofal, er bod Llywodraeth Prydain yn dweud bod y dull presennol yn adlewyrchiad “teg” o’r sefyllfa.