Fe fydd aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân yn cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi – heb adael eu cartrefi – er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin.

Ynghyd â nifer o wynebau adnabyddus, fe fydd yr aelodau’n cymryd troeon i gerdded rhan o’r daith (‘drwy’ Bontsiân) o 218 o filltiroedd mewn un diwrnod ar ddydd Llun (Ebrill 13) fel rhan o her Jog Off Corona.

Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn sgil y coronafeirws yn golygu na all pobol adael eu cartrefi heb fod gwir rhaid, ac felly mae’r criw yn mynd ati i gyflawni’r her o fewn ffiniau eu cartrefi eu hunain.

Bydd eu holl gamau’n cael eu cofnodi gan dechnoleg Strava, a’r holl arian yn mynd i ysbytai Glangwili a Bronglais.

Ar y daith gyda nhw fydd Ifan Jones-Evans, y Welsh Whisperer, Geraint Lloyd, Meinir Howells, ynghyd â’r actorion Carwyn Glyn ac Aled Llŷr Thomas o Pobol y Cwm.

“Rydyn ni’n hoff iawn o gael hwyl yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân, a bydd yr her ar ddydd Llun y Pasg yn gyfle i ddod ag aelodau a ffrindiau’r clwb ynghyd – er nad yn gorfforol – yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai Endaf Griffiths, un o aelodau CFfI Pontsiân wrth golwg360.

“Ond yn bwysicach na hynny, rydyn ni am ddiolch i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

“Dyna pam y bydd yr holl arian a godir ar y diwrnod yn cael ei rannu rhwng unedau gofal dwys Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Bronglais.”

Diolch i’r Gwasanaeth Iechyd

“Mae’r argyfwng Covid-19 yn golygu bod holl weithgareddau’r Ffermwyr Ifanc wedi’u gohirio am o leiaf y 12 wythnos nesaf,” meddai Teleri Evans, Cadeirydd CFfI Pontsiân.

“Fodd bynnag, rydyn ni fel clwb am barhau i gynnig gweithgareddau i’n haelodau mewn ffyrdd amgen, gan barchu cyfyngiadau’r Llywodraeth ar yr un pryd.

“Bydd y ‘daith gerdded’ yn gyfle i aelodau a ffrindiau CFfI Pontsiân gael ychydig o hwyl dros gyfnod y Pasg. Bydd hefyd yn gyfle i godi arian at achos da ac i ddiolch i holl weithwyr y GIG am y gwaith y maen nhw’n eu cyflawni yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Bydd fideos o’r ‘daith gerdded’ yn cael eu rhannu ar dudalennau CFfI Pontsiân ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol dydd Llun y Pasg. Bydd wedyn fideo o uchafbwyntiau’r diwrnod yn cael ei rannu ar y dydd Mawrth.