Mae Boris Johnson wedi cael mynd adref o’r ysbyty, ond fydd e ddim yn dychwelyd i’w waith am gyfnod.
Mae prif weinidog Prydain yn gwella o’r coronafeirws ar ôl bod mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty yn Llundain.
Bydd Dominic Raab yn parhau i arwain yn ei absenoldeb ac yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, bydd Boris Johnson yn treulio cyfnod yn Chequers.
“Ar sail cyngor ei dîm meddygol, fydd y prif weinidog ddim yn dychwelyd i’r gwaith ar unwaith,” meddai’r llefarydd.
“Mae’n dymuno diolch i bawb yn [Ysbyty] St Thomas am y gofal gwych mae e wedi’i dderbyn.
“Mae ei feddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y salwch yma.”