Mae Archesgob Cymru John Davies yn crybwyll “cwmwl salwch a gofid” yn ei neges Pasg flynyddol heddiw (dydd Sul, Ebrill 12).
Mae’n dweud bod rhaid wynebu’r tywyllwch yr adeg hon o’r flwyddyn, gan ddweud bod y cwmwl “dros nifer o wledydd, cymunedau a theuluoedd”.
Ond mae’n galw hefyd am ddod o hyd i “gariad a goleuni” yn y gweithgarwch caredig o’n cwmpas yn sgil y coronafeirws.
Mae’n dweud y gallwn ddibynnu ar sicrwydd cariad Duw ar ddiwrnodau tywyll a thrwm.
Y neges
“Mae’n debyg y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn dymuno byw mewn byd lle mae popeth yn sicr, lle medrir rhagweld pob dim a lle medrir rheoli pob dim,” meddai.
“Fe fydden ni’n gwybod lle’r ydym. Wrth gwrs breuddwyd gwrach yn hytrach na realaeth yw disgwyl pethau o’r fath ac mae digwyddiadau diweddar yn dangos hynny yn glir iawn.
“Yn union fel y credem, beth bynnag ein safbwynt gwleidyddol, y byddai canlyniad yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019 yn golygu y byddai’r gwingo ac ymhonni gwleidyddol oedd yn ymddangos yn ddiddiwedd o amgylch digwyddiad Brexit, drosodd mewn dim o dro, y daeth y rhybudd ac wedyn y realaeth o stormydd ofnadwy a ddifethodd fywydau, cartrefi, bywoliaeth pobl a’u gobeithion.
“Ac wedyn, ac yn dal i fod yn awr ac am gryn dipyn o’r dyfodol rhagweladwy fe ymddengys, mae Coronafeirws yn ymestyn dros lawer o’r byd, gan ei adael, mewn llawer o leoedd, ar glo, patrwm o fyw a orfodwyd arnom, er ein lles ein hunain a lles pobl eraill, yn annhebyg i ddim a welodd fawr neb o’r blaen.
“Mae cwmwl o salwch a gofid yn gorchuddio llawer o genhedloedd, cymunedau a theuluoedd; collwyd bywydau gwerthfawr, mae gofal iechyd a gwasanaethau eraill ar y dibyn, a ffordd gyflawn o fyw, y credid ei fod yn ddiysgog, yn chwilfriw.
“Mae ofnau am y dyfodol, personol, economaidd a chenedlaethol ym mhobman, ac unigrwydd, arwahanrwydd a phryder yn nodweddion bywydau miliynau ar draws y byd ac yn ein cymunedau lleol.
“Ond yno, yn gwbl ganolog, ymysg yr holl lanastr a’r pryder a’r dioddefaint a’r anghyfleuster a’r tywyllwch, mae cariad a goleuni na all dim ei ddiffodd; cariad a goleuni a ddangosir yn llawen, ewyllysgar, ac aberthol mewn gweithredoedd dirifedi o ddaioni, caredigrwydd, addfwynder a haelioni, a ddangosir gan filiynau o bobl yn amharod i weld bodau dynol eraill, eu brodyr a’u chwiorydd, yn dioddef eiliad yn fwy o boen a galar os gallant wneud rhywbeth amdano.
“Dangosant bethau Teyrnas Dduw, pethau sydd wrth galon Efengyl Iesu Grist, ac sy’n adleisio galwad proffwydi’r Hen Destament am gyfiawnder a heddwch.
“Credai’r rhai a fu’n gweithio a chynllwynio i groeshoelio Iesu Grist y byddai hynny’n dod â diwedd i’r hyn y safai amdano, diwedd i’r hyn a ddangosai, a diwedd i’r math o fywyd y dywedodd fod gan bawb hawl i’w brofi, ac yr oedd gan eraill gyfrifoldeb i weithio drosto.
“Mae hyn yn fywyd, mewn byd amlwg fregus, sydd serch hynny mor llawn ac mor gyfiawn ac y gall byth fod, bywyd mewn byd lle mae hyd yn oed y lleiaf ohonynt, brodyr a chwiorydd Crist yng nghnawd a gwaed dynoliaeth, yn cyfri ac yn cael eu trin gyda chyfiawnder ac urddas.
“Fe wnaeth galw’r Iesu am y cyfiawnder a’r urddas hwnnw ar gyfer eraill herio ac ymyrryd gyda gobeithion hunanol a gormesgar pobl eraill – y grymus, y cyfrwys, y trahaus.
“Roedd eu tywyllwch yn casáu ei oleuni; roedd ei gariad yn bygwth eu gorthrwm. Felly, roedd yn rhaid iddo fynd; ei groeshoelio o flaen tyrfa groch, watwarus, ar domen sbwriel tu allan i furiau eu dinas drefnus.
“Ar gyfer y rhai oedd wedi gweld gobeithion mor fawr o drefn newydd a chyfiawn ynddo, ergyd ddirfawr; roedd yr hen drefn yn dal yn ei lle. Ond fel y dengys hanes, hanes nid stori tylwyth teg, roedd rhywbeth mwy i ddod, a ddangosodd, wedi’r cyfan, nad oedd yr hen drefn yma am byth. Bu’r Iesu fyw, mae’r Iesu yn fyw. Nid oedd, ac nid yw, mor rhwydd roi teyrnasiad cariad o’r neilltu.
“Mae’r Pasg yn ymwneud â wynebu’r tywyllwch, galw am ddiwedd i’r boen, a thywallt cariad anataliadwy Duw i fywydau’r rhai sydd mewn loes a’r bregus. Mae’n union hynny’n digwydd o’n cwmpas ar hyn o bryd diolch i’r rhai a gaiff eu talu am wneud hynny a’r gwirfoddolwyr hynny na all sefyll o’r neilltu a gweld eraill yn dioddef; ac mae’n digwydd dro ar ôl tro pryd bynnag mae trychineb yn taro, pryd bynnag y daw tywyllwch a phryd bynnag y mae ofn yn bygwth.
“Mae’r Pasg hwn yn annhebyg i unrhyw un a welais i erioed, yn annhebyg i’r un a welodd y rhan fwyaf ohonoch chi. Ond wrth ei galon mae’r gwirionedd mae pob cenhedlaeth wedi’i adnabod, pan mae calonnau’n gwaedu, mae cariad yn camu mewn.
“Felly os yw’ch calon yn gwaedu, os ydych yn brifo, os ydych yn teimlo dan fygythiad, yn unig neu’n bryderus, gobeithiaf y gallwch ganfod sicrwydd yn yr addewid y bydd pobl ddirifedi mewn nifer ddirifedi o wahanol ffyrdd bob amser yn credu ynoch, bob amser yn gofalu amdanoch a bob amser yn gwybod eich bod yn cyfri.
“A’u bod yn gweithio i ddod ag atgyfodiad i chi nawr. Mae Duw y Tad, a anfonodd Iesu fel y gallem adnabod realaeth ei gariad yn eu defnyddio nhw, i’ch sicrhau chi am y cariad hwn atoch.
“Mae sicrwydd ac mae darogan y gallwn ddibynnu arno ac y gallwn ymddiried ynddo hyd yn oed os yw’r dyddiau yn dywyll a chalonnau yn drwm.”