Mae Geraint Thomas yn gobeithio y bydd modd cynnal ras feics Tour de France eleni, gan ddweud ei fod e’n ffyddiog y gallai ennill y ras eto.

Mae’r Cymro, enillodd y ras yn 2018, yn teimlo ei fod e ar ei anterth ar hyn o bryd, ychydig dros ddeufis cyn y dyddiad y mae disgwyl i’r ras gael ei chynnal.

Roedd disgwyl iddi ddechrau ar Fehefin 27 a phara tan Orffennaf 19 ac er nad yw hi wedi cael ei chanslo na’i gohirio eto, mae’n annhebygol y bydd hi’n mynd yn ei blaen gyda chynifer o ddigwyddiadau chwaraeon eisoes wedi’u gohirio o ganlyniad i’r coronafeirws.

“Dw i’n credu ’mod i ar fy anterth ar hyn o bryd,” meddai wrth Radio 5 Live.

“Dechreuodd fy ngyrfa ar y ffordd ychydig yn hwyrach na’r mwyafrif oherwydd ro’n i’n rasio ar y trac ac yn y Gemau Olympaidd.

“Mae’n teimlo fel mai dyma fy mlynyddoedd gorau.

“Mae’n drueni i raddau ar hyn o bryd, ond mae llawer o bethau difrifol sydd angen cael y flaenoriaeth dros hynny.

“Mae’n drueni ond gobeithio y gall fynd yn ei blaen.”

Codi arian

Yn absenoldeb y ras ei hun, mae’r Cymro’n mynd ati i godi arian at y Gwasanaeth Iechyd.

Fe fydd e’n treulio 12 awr ar y tro ar feic ymarfer dan do, gan gwneud tair ‘shifft’ o Ebrill 15 ymlaen.

“Ro’n i eisiau helpu mewn unrhyw ffordd fach allwn i,” meddai.

“Y cyfan dw i’n ei wybod yw mynd ar gefn beic felly ro’n i’n meddwl y byddwn i’n adlewyrchu shifftiau gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

“Bydda i yma yn fy ngarej, ar Zwift, a dw i’n mynd i wneud tair shifft 12 awr gefn wrth gefn, a dechrau ddydd Mercher gan orffen nos Wener.

“Bydd yr holl arian yn mynd at y Gwasanaeth Iechyd.

“Dw i ychydig yn nerfus oherwydd dw i ddim wedi reidio cyhyd mewn diwrnod o’r blaen, felly dw i’n mynd i fod mewn tipyn o boen ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, heb sôn am y trydydd.”