Mae 1,500 o weithiwr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi derbyn prawf coronafeirws hyd yma, yn ôl Prif Weithredwr y corff yng Nghymru.
Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, dywedodd Andrew Goodall bod tua 10% o staff GIG Cymru naill ai yn sâl, neu ddim yn y gwaith.
A thaflodd rhywfaint o oleuni ar nifer y profion sydd yn cael eu cynnal i adnabod y rheiny sydd wedi dal yr haint.
“Hyd yma mae 1,500 aelod o staff ledled Cymru wedi derbyn prawf,” meddai. “Ac rydym yn cynyddu’r niferoedd yna.
“Dros y diwrnodau diwethaf mae tua 200 o weithwyr iechyd y dydd wedi derbyn prawf. Ddoe cafodd bron 1,000 o brofion eu prosesu [ledled y wlad – nid y GIG yn unig].
“Ac mi welwn y niferoedd yna’n parhau i gynyddu yng Nghymru.”
Testun embaras
Mae mater y profion wedi bod yn dipyn o bwnc llosg, ac yn destun rhywfaint o embaras i’r Llywodraeth yr wythnos hon.
Roedd y Llywodraeth wedi gobeithio medru darparu 6,000 o brofion bob diwrnod erbyn Ebrill 1, ond erbyn diwedd yr wythnos hon fyddan nhw ond yn medru darparu 1,100.