Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mark Polin, wedi dweud mai diffyg pecynnau PPE oedd “prif ofid” staff oedd gweithio ar ward coronafeirws yn ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd wrth BBC Radio Cymru bod stoc ar draws y Deyrnas Unedig yn mynd i ddod o dan “bwysau difrifol” gan ychwanegu fod ei fwrdd iechyd yn edrych ar brynu offer gan y sector breifat.
Pan ofynnwyd iddo beth oedd staff ysbyty Glan Clwyd yn ei ddweud, dywed: “Maen nhw’n dweud wrtha i eu bod yn defnyddio’r pecynnau PPE sydd gennym ni yn ddychrynllyd o gyflym.
“Cefais gyfle i weld yr offer ddoe a dyw peth ohono ddim yr ansawdd gorau, sydd hefyd yn codi gofidion.”
Mae Mark Polin wedi codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru gan ddweud: “Nid yw hyn yn ymwneud â barnu’n gilydd, mae hyn yn ymwneud â dod at ein gilydd a gwneud popeth yn ein gallu i warchod ein staff a dyna rydym yn ei wneud fel bwrdd iechyd.”