Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 ger Bangor.

Cafodd yr Heddlu ei galw yno yn ystod oriau mân y bore dydd Mercher (Ebrill 1) yn dilyn adroddiad fod dyn yn cerdded ar yr A55 ger cyffordd 12.

Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad â cherbyd nwyddau trwm, ond bu farw’r dyn ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o’r uned plismona ffyrdd fod yr Heddlu nawr yn apelio am wybodaeth.

“Rydym yn credu fod y dyn 44 oed o Iwerddon wedi teithio i Gaergybi ar y fferi.

“Credwn iddo gael lifft o’r porthladd i Fangor, felly rydym yn apelio ar yr unigolyn neu’r bobol a roddodd lifft iddo i gysylltu â ni.

“Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld rhywun yn cerdded yn agos i’r A55 ychydig cyn un y bore, neu i unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal sydd â lluniau dash-cam i gysylltu â ni.”