Mae’r person cyntaf i gael ei harestio ar y rheilffordd am dorri cyfyngiadau coronafeirws wedi derbyn dirwy o £650.
Cafodd Marie Dinou y ddirwy ar ôl iddi fethu rhoi rheswm teilwng am ddefnyddio’r rheilffordd yn ystod y pandemig.
Cafodd yr heddlu eu galw gan weithwyr y rheilffordd ar ôl iddyn nhw weld y ddynes 41 oed yn loetran rhwng y platfformau yn stesion Newcastle Central ddydd Sadwrn (Mawrth 28).
Fe sgwrsiodd yr heddlu gyda hi a’i holi sawl gwaith pam ei bod hi yno, ond ar ôl gwrthod egluro’i hunan fe’i harestiwyd.
“Mae gorfodaeth o unrhyw fath o dan y canllawiau newydd wir yn gam mawr, yn enwedig arestio” meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Sean O’Callaghan.
“Yn yr achos yma, fe geisiodd y swyddogion eu gorau glas i drafod hefo Dinou. Gallaf eich sicrhau chi y buasai’n llawer gwell ganddo ni beidio cymryd y fath gamau.
“Rydym yn erfyn ar y cyhoedd i wneud y peth iawn a’n helpu ni i achub bywydau wrth aros adref ac arafu lledaenu’r firws.”
Dirwy
Cafodd Marie Dinou o Efrog ei harestio ac ymddangosodd yn y Llys yn North Tyneside ddydd Llun, (Mawrth 30).
Cafodd ddirwy o £650 am fethu dilyn y gofynion sydd wedi eu gosod o dan y Ddeddf Coronafeirws 2020 yn ogystal a dirwy o £85 am dwyll tocynnau a £80 mewn costau.
O dan y cyfreithiau newydd, mae gan yr heddlu hawl i roi dirwy i unrhyw un y tu allan i’w cartref heb reswm dilys, gyda’r dirwyon yn dechrau ar £60 ond yn gallu cyrraedd uchafswm o £960 i’r rhai sydd yn ail droseddu.