Mae prif weinidog Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi sicrwydd ariannol “ar frys” i weithwyr hunangyflogedig yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd gweithwyr yn fodlon “gwneud y peth iawn” ac aros i ffwrdd o’r gweithle pan fyddan nhw’n cael sicrwydd y gallan nhw “fforddio” gwneud hynny.

Mae 60 o achosion newydd o’r feirws wedi’u cadarnhau yng Nghymru, a’r cyfanswm wedi cyrraedd 478 gydag 17 o bobol wedi marw hyd yn hyn.

O edrych ar yr achosion fesul bwrdd iechyd, mae 49 ohonyn nhw yn ardal Bae Abertawe, 248 yn Aneurin Bevan, 19 yn Betsi Cadwaladr, 96 yng Nghaerdydd a’r Fro, 23 yng Nghwm Tâf, 27 yn Hywel Dda ac 11 ym Mhowys.

‘Sefyllfa ffiaidd’

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd ati ar frys i roi trefniadau yn eu lle i gefnogi’r rhai hunangyflogedig fel nad yw pobol yn cael eu rhoi yn y sefyllfa ffiaidd o wneud y peth iawn ond yn methu fforddio hynny,” meddai’r prif weinidog.

“Fe wnaethon nhw’r peth iawn o ran pobol sydd mewn gwaith ac sy’n eu cael eu hunain heb waith i’w wneud.

“Mae angen i ni gwblhau’r darlun hwnnw drwy roi’r un sicrwydd i’r hunangyflogedig ac fe fyddan nhw wedyn yn gwneud y peth iawn.”

Canmol rhieni sy’n gweithio

Mae e wedi talu teyrnged i’r rhai sy’n gweithio i wasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r feirws, yn ogystal â rhieini sy’n gweithio yn y meysydd hynny am lwyddo i wneud trefniadau addysg ar gyfer eu plant tra bod yr ysgolion ynghau.

Fe ddaeth i’r amlwg mai 4% yn unig o blant Cymru oedd yn yr ysgol ddydd Llun, ac roedd y ffigwr yn isel ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 24) hefyd, meddai.

Mae’n mynnu bod digon o gyfarpar diogelwch ar gael i bob gweithiwr sydd ei angen, ac y bydd rhagor ar gael yn y dyfodol.

Cyfleusterau newydd

Yn y cyfamser, mae ysbyty newydd ger Cwmbrân am agor ei ddrysau flwyddyn yn gynnar er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.

Fe fydd yr ysbyty’n cynnig 350 o wlâu ychwanegol erbyn diwedd mis Ebrill.

Fe fydd cyfleuster newydd hefyd yn agor yn Rhondda Cynon Tâf a chanolfan hamdden yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael ei throi’n ysbyty dros dro.

Mae’r cyfleusterau a chyfarpar newydd yn golygu y bydd modd cynnal hyd at 8,000 o brofion coronafeirws bob dydd, yn hytrach na’r 200 sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Ddydd Llun (Mawrth 23), daeth cadarnhad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod 15% o wlâu mewn unedau gofal dwys wedi’u rhoi i gleifion sydd wedi’u hamau o fod wedi’u heintio â’r feirws.

Ac mae’n rhybuddio bod “wythnosau mwy heriol” i ddod nag erioed o’r blaen.