Mae carchardai yng Nghymru a Lloegr o dan warchae gyda’r holl ymweliadau wedi’u canslo, wrth iddi ddod i’r amlwg bod miloedd o staff yn ynysu eu hunain yn sgil y coronafeirws.

Dywed Jo Farrar, prif weithredwr y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, fod 13 o garcharorion wedi profi’n bositif am y coronafeirws gydag achosion mewn naw carchar ar hyn o bryd – er ei bod hi’n debygol bod rhagor wedi cael eu heintio.

Mae’n dweud ymhellach fod oddeutu 4,300 o staff carchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn ynysu eu hunain ar hyn o bryd.

Mae tua 3,500 ohonyn nhw’n staff carchardai – sy’n cyfateb i 10% o’r gweithlu.

Mae 50,000 o fygydau diogelwch wedi cael eu hanfon at staff, ac mae gwaharddiad ar ddod â glanweithydd dwylo i mewn i’r gwaith wedi cael ei ddileu.

Mae Aelodau Seneddol yn gobeithio gallu dosbarthu profion coronafeirws i staff sy’n ynysu eu hunain.

Daw hyn yn dilyn pryderon am amodau yng ngharchar Holme House yn Durham.

Mesurau

Mae’r mesurau tu fewn i garchardai yn cynnwys:

  • gwaharddiad ar ymwelwyr ond mae ymdrechion i sicrhau bod ffôn ar gael i garcharorion
  • cael mynediad i gawodydd, ffonau ac ymarfer corff, gydag ymbellhau cymdeithasol mewn grym
  • mae’r sawl sy’n gweithio mewn ceginau, golchdai ac yn glanhau yn dal i gael gweithio
  • mae campfeydd ynghau
  • mae gweithgareddau megis addysg wedi eu gohirio
  • dydy carcharorion ddim yn cael eu cludo i achosion llys