Mae Narendra Modi, prif weinidog India, yn galw ar drigolion y wlad i beidio â mynd allan yn sgil y coronafeirws, gan addo £1.7bn er mwyn cynnal yr economi.
Bydd y mesurau yn eu lle am 21 diwrnod, ac mae’n golygu bod tua un rhan o bump o boblogaeth y byd bellach dan fesurau llym.
Pe na bai’r mesur yn cael ei gyflwyno, mae Narendra Modi yn rhybuddio y gallai India gael ei llusgo’n ôl 21 o flynyddoedd wrth ymateb i’r feirws.
Fel sy’n digwydd yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd, mae trigolion India wedi bod yn rhuthro i’r siopau i brynu nwyddau, ac fe fu’n rhaid galw’r heddlu i dawelu’r dorf mewn sawl ardal.
Mae 469 o achosion wedi’u cofnodi yn y wlad hyd yn hyn, a deg o farwolaethau.
Bydd siopau bwyd, banciau, peiriannau twll yn y wal a gorsafoedd petrol ar agor yn ystod y cyfnod hwn, a bydd uchafswm o 20 o bobol yn cael mynd i angladdau.
Mae oddeutu 300m o bobol yn byw mewn tlodi yn India, a dydy hi ddim yn glir eto pa gymorth fydd ar gael iddyn nhw dros yr wythnosau nesaf.