Mae arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, Neil McEvoy wedi dweud y dylai Cynghorau Sir weithredu er mwyn gwarchod cymunedau lleol yng Nghymru rhag lledaenu’r coronafeirws.
Daw hyn yn sgil beth mae o’n ei ddisgrifio’n “fethiant i weithredu” ar ran Llywodraeth Cymru.
Heidiodd miloedd o bobol i fannau twristaidd yng Nghymru dros y penwythnos.
Mae nifer o feysydd carafanau eisoes wedi cymryd yr awenau a chau i ymwelwyr.
“Dros y penwythnos, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ardaloedd o Gymru mewn perygl wrth beidio gweithredu,” meddai Neil McEvoy.
“Mae llefydd megis Gwynedd wedi cael eu gorlenwi â thwristiaid, a bydd rhai wedi bod yn cario’r firws gan ei basio ymlaen drwy gyffwrdd arwynebau a dod mewn cyswllt â phobl eraill.”
Mae’r Cynghorydd Dylan Bullard, sy’n cynrychioli Pwllheli wedi ategu geiriau Neil McEvoy.
“Mae’n warthus bod ein hawdurdodau lleol a’r llywodraeth wedi bod mor araf yn ymateb,” meddai.
“Mae cymunedau lleol wedi cael eu gadael i roi pwysau ar safleoedd gwyliau eu hunain.”