Mae pedwar yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod a’r cyfanswm i 16, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd hefyd bod 71 o achosion newydd o Covid-19 gan ddod a’r cyfanswm i 418 yng Nghymru.

Ond dywedodd Dr Giri Shankar, cyfarwyddwr yr ymateb i’r coronafeirws ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod nifer yr achosion yn debygol o fod yn “llawer uwch”.

Mae wedi dweud bod y firws bellach ym mhob rhan o Gymru. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi galw ar bobol i beidio teithio i ail-gartrefi a mannau twristaidd er mwyn rhwystro’r firws rhag lledaenu.

“Hynod bryderus”

Mewn cynhadledd newyddion heddiw (dydd Llun, Mawrth 23) dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi’n “hynod bryderus” ar ôl  gweld torfeydd mawr o bobl yn teithio i Gymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn hollol glir – peidiwch â theithio oni bai ei bod hi’n hanfodol ac mi alla’i ddweud wrthoch chi nad yw hi’n hanfodol mynd i Pen-y-Fan [ym Mannau Brycheiniog] heddiw na dros y penwythnos,” meddai.

Dywed y byddai’r Llywodraeth yn cymryd “y camau angenrheidiol” i amddiffyn y cyhoedd ac arafu lledaeniad y coronafeirws.

Mae Kirsty Williams wedi cadarnhau fod gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y gallu i orfodi meysydd carafanau i gau yng Nghymru.

“Mae’r pwerau yma ar gael, mae ma broses sydd angen cael ei dilyn,” meddai.

“Rwyf yn hyderus bod y Prif Weinidog yn bwriadu eu defnyddio.”

Mesurau llymach

Yn y Deyrnas Unedig mae nifer y rhai sydd wedi marw o’r firws wedi cyrraedd 281.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi mesurau llymach i fynd i’r afael a’r coronafeirws heddiw (Mawrth 23).