Mae pedwar o gynghorau sir Cymru’n gofyn i bobol o’r tu allan i gadw draw yn sgil y coronafeirws.
Mae Cyngor Sir Gwynedd yn “erfyn ar y rhai hynny sy’n ystyried ymweld â Gwynedd ac Eryri i beidio gwneud hynny”, tra bod penaethiaid cynghorau sir Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin wedi dod ynghyd i gyflwyno cais tebyg.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yng Ngwynedd, mae’r coronafeirws yn “argyfwng byd-eang digynsail” ac mae’n gofyn i bobol fynd adref.
“Os ydych yng Ngwynedd yn barod ar eich gwyliau, mewn carafán neu ail gartref er enghraifft – rydym yn erfyn arnoch i ddychwelyd i’ch prif gyfeiriad cartref a pheidio dod yn ôl i’r ardal hyd nes bydd y sefyllfa wedi gwella,” meddai.
Ac mae’n galw ar leoliadau sy’n cynnig gwyliau yn yr ardal i “gau ar unwaith”.
“Erfyniwn hefyd ar berchnogion ein parciau gwyliau, parciau carafanau a llety gwyliau hunan-ddarparu gan gynnwys Airbnb, i gau yn syth er lles holl bobl Gwynedd ac mae llythyr wedi ei anfon atynt yn gofyn iddynt wneud hyn os nad ydynt eisoes wedi gweithredu.”
Economi Gwynedd
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, sy’n gyfrifol am yr Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd, “mae’n anodd dirnad” sut effaith fydd y coronafeirws yn ei chael ar economi’r ardal yn y dyfodol.
Ond mae yntau hefyd yn gofyn i bobol gadw draw am y tro.
“Mae Gwynedd wedi croesawu ymwelwyr ers canrifoedd, ac rydym yn cydnabod cyfraniad y rhai hynny sy’n ymweld i fwynhau ein hardal a chefnogi ein economi.
“Ond, ni allwn groesawu ymwelwyr ar hyn o bryd, a gofynnwn yn garedig ond yn gadarn iddynt beidio dod yma neu i ddychwelyd adref gan ddod yn ôl i ymweld a ni pan fyddwn wedi goresgyn y sefyllfa bresennol.
“Am y tro mae’r neges i ymwelwyr yn un syml – drwy adael eich cartref a dod i Wynedd ar hyn o bryd rydych yn rhoi eich iechyd chi a iechyd pobl Gwynedd mewn peryg.”
Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin
Yn y cyfamser, mae penaethiaid cynghorau sir Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin yn gofyn i bobol gadw draw o’r ardal er lles y Gwasanaeth Iechyd.
Mewn datganiad, mae Ellen ap Gwynn (Ceredigion, David Simpson (Penfro) ac Emlyn Dole (Caerfyrddin), ynghyd â Maria Battle, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn ymateb i’r sefyllfa.
Maen nhw’n dweud ei bod yn “hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r clefyd hwn mewn her na welwyd ei thebyg o’r blaen yn y cyfnod modern”.
Maen nhw’n annog pobol i ddilyn cyngor y Llywodraeth, ac i “wneud popeth o fewn ein gallu” i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.
Ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at niferoedd cynyddol o bobol yn dod i mewn i’r ardal i ynysu eu hunain.
“Un pryder mawr yr ydym yn dechrau ei weld yw mewnlifiad o dwristiaid i Orllewin Cymru a’r canlyniadau y gallai hyn eu cael yn yr wythnosau nesaf ac yn enwedig y perygl difrifol y bydd pwysau aruthrol, diangen ar ein gwasanaethau a’n cadwyni cyflenwi.
“Fel cefnogwyr cryf i’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yma yn y gorllewin, rydym yn deall yn iawn yr heriau enfawr a difrifol sy’n wynebu’r sector a pham y bydd rhai busnesau am fanteisio ar y cyfle hwn i ddenu ymwelwyr ar hyn o bryd.
“Fodd bynnag, ein prif flaenoriaeth yw’r angen i atal lledaeniad y firws hwn a hefyd amddiffyn ein GIG rhag y pwysau cynyddol a ddaw yn sgil twristiaeth ar adeg pan fyddant yn cael eu hymestyn i’r eithaf.”