Mae gofyn i bobol sydd â’r cyflyrau iechyd mwyaf dwys aros adref yn sgil y coronafeirws.

Mae disgwyl i hyd at 1.5m o bobol yn Lloegr dderbyn llythyr yn ystod y dyddiau nesaf yn eu “cynghori nhw’n gryf” i beidio â mynd allan am o leiaf 12 wythnos.

Bydd y rheiny’n cynnwys pobol sydd wedi cael trawsblaniad, y rhai â phroblemau anadlu a rheiny sydd â sawl math o ganser.

Yn eu plith hefyd mae pobol sy’n cymryd meddyginiaethau sy’n peryglu’r system imiwnedd.

Lle bo’n bosib, bydd y rhai sydd wedi’u heffeithio’n derbyn negeseuon testun yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar sut i gadw trefn ar eu cyflyrau adref, gan gynnwys derbyn presgripsiwn i’r tŷ a chael mynediad i gymorth i fyw’n annibynnol o ddydd i ddydd.

Mae pobol sy’n byw â phobol sydd â chyflyrau iechyd dwys yn cael eu cynghori i gyfyngu ar gyswllt uniongyrchol cymaint â phosib.