Mae Heddlu’r De yn defnyddio grym arbennig i stopio a chwilio pobol yng Nghaerdydd yn dilyn sawl achos diweddar o drywanu.
Daeth yr Hysbysiad Adran 60 i rym am 11 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 22) ac fe fydd yn para 24 awr.
Mae’n rhoi’r grym i’r heddlu stopio a chwilio unrhyw un yn ardal Tremorfa i sicrhau nad ydyn nhw’n cario arf heb reswm da, ac mae hynny’n cynnwys cerddwyr, gyrwyr a theithwyr.
Cafodd dyn 20 oed ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei drywanu yn ardal Sblott brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 21).
Dydy’r heddlu ddim yn credu bod unrhyw berygl ehangach i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond mae “tensiwn cynyddol” wedi arwain at achosion o ddifrod troseddol difrifol a phedwar dyn yn cael eu harestio am droseddau’n ymwneud â chyffuriau.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am yr achos o drywanu ffonio’r heddlu ar 101.