Mae pobol yn troi at grŵp Facebook ar gyfer pobol yn y gogledd i ganmol archfarchnadoedd am agor yn gynnar i weithwyr iechyd, ond maen nhw’n gweld bod rhai yn manteisio ar y sefyllfa hefyd.
Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y byddai nifer o archfarchnadoedd yn agor eu drysau am awr bob bore i weithwyr iechyd a phobol fregus yn unig, er mwyn iddyn nhw gael siopa cyn bod torfeydd o bobol yn cyrraedd i bentyrru nwyddau.
Mae rhai archfarchnadoedd hefyd wedi gorfod cyfyngau ar y nwyddau mae cwsmeriaid yn gallu eu prynu wrth iddyn nhw geisio atal prinder, gan rybuddio bod digon o nwyddau ar gael i bawb ar hyn o bryd.
‘Tesco yn llawn dop’
Mae un neges gan Rae Jesse yn dweud yn dweud iddi gyrraedd Tesco “toc ar ôl 9.30” ond nad oedd modd mynd i mewn.
Mae’n dweud iddi gael ei stopio gan swyddog diogelwch, a bod “staff y Gwasanaeth Iechyd yn gadael heb allu mynd i mewn”.
Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “gwbl warthus”, a bod y cyhoedd yn ciwio yn eu heidiau y tu allan i’r drysau “ac ymhell i ganol y maes parcio”.
Mae hi’n dweud bod rhoi mynediad i weithwyr iechyd yn “syniad da, wedi’i weithredu’n wael”.
Yn Abergele, mae Tracy Lyall yn dweud bod y tiliau ynghau tan 10 o’r gloch ac mai “y cyhoedd” oedd y broblem wrth iddyn nhw giwio.
Mae Belinda Bridge yn dweud ei bod hi’r “un fath yn Abergele”, lle’r oedd “y maes parcio’n llawn erbyn 9.30” er nad oedd y siop yn agor tan 10 o’r gloch i’r cyhoedd.
Mae un arall, Margery Griffin, yn disgwyl “llawer o wastraffu bwyd dros yr wythnosau nesaf neu wenwyn bwyd yn cynyddu”, a hynny “gan nad oes gan bobol ddigon o storfa ar gyfer prynu mewn panig”.
‘Ymbellháu cymdeithasol’
Yn ôl rhai, mae mynd i siopa mewn panig yn peryglu manteision ymbellháu cymdeithasol.
Yn ôl Stephen M Wilkes, “ydy’r tripiau siopa yma wir yn ymbellháu cymdeithasol!!!!!!!!! Twp.”
Yn ôl Trefor a Carol Hughes-Morris, mae cau caffis a bwytai, yn ogystal ag ysgolion lle gall plant gael prydau bwyd am ddim, wedi cyfrannu at y sefyllfa yn yr archfarchnadoedd.
“Mae archfarchnadoedd a’r gadwyn gyflenwi hefyd yn cyflenwi jyst mewn pryd,” meddai eu neges nhw ar y ffrwd.
“Efallai ymhen rhai wythnosau y bydd hi wedi tawelu, gydag archfarchnadoedd â mwy o ddata am arferion siopa ac yn gallu addasu i’r gadwyn gyflenwi yn ôl yr angen?”