“Meddyliwch eto” yw neges Liz Saville Roberts wrth bobol sy’n teithio i’w hail gartrefi i ynysu eu hunain yn sgil y coronafeirws.
Daw apêl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn dilyn adroddiadau bod niferoedd cynyddol o bobol yn teithio i’r gogledd i aros mewn tai neu garafanau yn dilyn cyngor Llywodraeth Prydain y dylai pawb ynysu eu hunain.
Mae nifer o gwmnïau a pherchnogion carafanau eisoes wedi cau eu safleoedd wrth ymateb i’r cyngor diweddaraf.
Ymateb Liz Saville Roberts
Mewn neges fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Liz Saville Roberts yn llongyfarch perchnogion safleoedd carafanau am wneud “penderfyniad anodd ac anhunanol”.
“I’r bobol hynny sy’n meddwl dod i ardaloedd gwledig, naill ai i aros mewn carafan neu i ynysu eu hunain mewn ail gartrefi, ga i plis ymbil arnoch chi i feddwl eto,” meddai.
“A yw hon yn daith hanfodol?”
Dywed fod y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd dan gryn bwysau.
“Gadewch i ni wneud yr hyn sydd angen ei wneud,” meddai wedyn.
Apêl gan Stephen Crabb yn Sir Benfro
Un arall sydd wedi cyhoeddi apêl o’r fath yw Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Preseli Sir Benfro.
Mae’n dweud bod “angen i bobol osgoi teithio os yw’n bosib”.
“Dw i wedi treulio 15 mlynedd yn annog pobol i ddod i Sir Benfro hyfryd ar wyliau,” meddai.
“A byddaf yn parhau i wneud hynny pan ddown ni drwy’r peth yma.
“Ond ar hyn o bryd, mae angen i bobol osgoi teithio os yw’n bosib.
“[Mae’r] Bwrdd Iechyd yn bryderus iawn am bwysau ychwanegol ar wasanaethau.”