Mae pwysau ar Lywodraeth Prydain i helpu gweithwyr hunangyflogedig, llawrydd a chontractwyr yn sgil coronafeirws.
Mae aelodau seneddol yn rhybuddio nad yw’r pecyn cymorth sydd wedi’i gyhoeddi gan Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn mynd yn ddigon pell wrth warchod bywoliaeth gweithwyr yn y categorïau hynny.
Ac mae rhai, gan gynnwys y Gweinidog Cabinet David Davis, yn mynd mor bell ag awgrymu y gallai’r economi ddiodde’n enbyd os nad ydyn nhw’n cael eu gwarchod.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn canolbwyntio ar y mesurau pwysicaf er mwyn cynnal yr economi, yn ôl Stephen Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys.
Mae undebau llafur a sefydliadau cyflogaeth yn croesawu cyhoeddiad Rishi Sunak y bydd y Llywodraeth yn talu hyd at 80% o gyflogau, hyd at £2,500 y mis, pe bai gweithwyr yn dal i gael eu cyflogi gan gwmnïau.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y bydd yn anodd asesu incwm gweithwyr hunangyflogedig sydd y tu allan i’r system PAYE ar gyfer gweithwyr cyflogedig.
‘Mae’n gwbl hanfodol’
Ond yn ôl David Davis, mae’n “gwbl hanfodol” fod Rishi Sunak yn dod o hyd i ffordd o helpu gweithwyr hunangyflogedig.
“Heb hyn, bydd holl economi Prydain yn cael trawiad – un angheuol bron iawn yn nhermau’r economi,” meddai wrth y BBC.
“Mae’n wych i’r rhai sydd â swyddi ond mae’n colli sector pwysig yn yr economi, sef y rhai hunangyflogedig, ac fe fydd yn rhaid iddo fe [Rishi Sunak] ddod o hyd i ailadrodd hyn ar gyfer y rhai hunangyflogedig hefyd.”
Mae’r Gyngres Undebau Llafur (TUC) yn ategu’r alwad, gan ddweud y byddan nhw’n ei “wthio’n galed iawn”.