Mae’r cyhoedd wedi’u hannog i ddangos “parch” at fferyllwyr wrth iddyn nhw wynebu “galw mwy nag erioed o’r blaen” ledled y wlad.
Mae’r Prif Swyddog Fferyllol, Andrew Evans, wedi dweud bod gweithwyr y sector “dan gryn bwysau” ar hyn o bryd, wrth i’r coronafeirws ledaenu trwy’r Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â’r cynnydd mewn galw, bydd rhai aelodau staff yn hunan-ynysu, meddai, gan roi pwysau ar fferyllfeydd. Ac yn sgil hyn oll mae’n dweud y dylai’r cyhoedd ddangos amynedd.
“Cofiwch y bydd timau fferyllfeydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pobl yn gallu cael y meddyginiaethau y mae arnynt eu hangen pan fydd eu hangen arnynt,” meddai.
“Felly byddwch cystal â dangos iddynt y parch y maent yn ei haeddu.”
Pum cam
Hyd yma mae dau berson wedi marw yng Nghymru ar ôl dal yr haint, ac mae 149 achos wedi’u cadarnhau.
Mae’r Prif Swyddog Fferyllol yn cynghori bod y cyhoedd yn dilyn pum cam er mwyn lleddfu’r pwysau ar fferyllfeydd, a gellir gweld y rheiny islaw.
- Peidiwch ag ymweld â fferyllfa os oes unrhyw un yn eich cartref â symptomau
- Cynlluniwch ymlaen llaw lle bo modd
- Rhowch eich manylion cyswllt ar eich presgripsiwn fel y gall fferyllfeydd roi gwybod i chi pan fydd eich meddyginiaethau’n barod i’w casglu
- Os ydych yn hunan-ynysu gofynnwch i’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion drefnu i gasglu eich meddyginiaeth ar eich cyfer
- Os yw’ch iechyd yn iawn a’ch bod yn gallu ymweld â’r fferyllfa eich hun, ystyriwch gasglu presgripsiynau ar ran teulu a chymdogion