Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cau pob un o’i ganolfannau ymwelwyr fel ymateb i ledaeniad y coronafeirws.
Cafodd y canolfannau a’u caffis eu cau ddydd Mercher (Mawrth 18), a fyddan nhw ddim yn ailagor tan fod y Llywodraeth yn caniatáu hynny.
Mae llwybrau’r corff amgylcheddol mewn coetiroedd, coedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, yn parhau ar agor; a fydd dim costau parcio ar eu safleoedd am y tro.
Canolfannau Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, a Garwnant yw’r rheiny fydd yn cau; ond bydd rhai gwasanaethau ar gael o hyd yn rhai o’r rhain.
“Gohirio lledaeniad”
Mae Richard Preece, Cynghorydd Arbenigol a Rheoli Digwyddiadau’r corff, yn annog pobol i gadw llygaid ar ddiweddariadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae wedi cynnig esboniad am y cam.
“Mae cau ein holl gyfleusterau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn fesur pwysig rydym wedi’i gymryd i helpu i ohirio lledaeniad y coronafeirws.
“Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr yn deall y camau hyn, sy’n â’r nod o helpu i gadw pawb yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”