Mae pryderon y bydd y coronafeirws yn rhoi pwysau ychwanegol ar fanciau bwyd ledled Cymru a Phrydain.

Dywed Cyngor Sir Fôn fod y galw eisoes wedi cynyddu ym manciau bwyd Amlwch a Chaergybi yn ystod yr wythnos ddiwethaf a’u bod yn disgwyl i hyn dyfu wrth i‘r sefyllfa Coronafeirws ddatblygu.

Daw hyn hefyd ar ôl y cyhoeddiad y dylai bod pobl dros 70 oed a’r rheini â chyflyrau iechyd cronig hunan ynysu am gyfnodau hir, a rŵan bod yr ysgolion wedi cau.

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyngor ei fod yn ymrwymo £30,000 i helpu i gefnogi Banciau Bwyd yr ynys.

Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi’r rheini sydd eisiau helpu mewn partneriaeth â Menter Môn a Medrwn Môn, ac maen nhw eisoes wedi gweld haelioni rhai unigolion a grwpiau cymunedol.

“Ni ddylai neb yn ein cymuned orfod wynebu llwgu a dyna pam rydym yn ymrwymo’r arian hwn, er mwyn caniatáu i’r banciau bwyd barhau â’u gwaith anhygoel,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi.

“Rwy’n falch o weld sut mae cymunedau Ynys Môn wedi dod at ei gilydd.”