Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi cyhoeddi bod claf – y cyntaf yng Nghymru – wedi marw ar ôl cael eu heintio gyda’r coronafeirws.

Dywedodd Dr Frank Atherton bod y claf yn 68 oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor. Roedd hefyd wedi bod yn dioddef o gyflyrau iechyd eraill, meddai.

“Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwys i’w teulu a ffrindiau ac yn gofyn am gael parchu eu preifatrwydd,” meddai Dr Frank Atherton.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod wedi tristau o glywed bod person yng Nghymru oedd a coronafeirws wedi marw a’i fod yn estyn cydymdeimlad dwys gyda’u teulu a ffrindiau.

“Rydym yn parhau i weithio’n galed i ymateb i’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus, wrth i effaith y firws barhau i gynyddu yn y dyddiau ac wythnosau i ddod.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 30 o achosion newydd o’r haint Covid-19 yng Nghymru ddydd Llun (Mawrth 16) gan ddod a’r cyfanswm yn y wlad i 124.