Mae cwmnïau hedfan prysuraf y Deyrnas Unedig yn gohirio canran helaeth o’u hediadau yn sgil coronafeirws.

Mae EasyJet, Ryanair a British Airways wedi torri nifer yr hediadau yn sgil cyfyngiadau teithio i nifer o wledydd a gostyngiad enfawr mewn galw.

Cafodd “cansladau arwyddocaol pellach” eu cyhoeddi gan EasyJet, a rybuddiodd eu bod hi’n bosib na fydd “mwyafrif” o’u hawyrennau’n teithio yn y dyfodol.

Yn y cyfamser mae Ryanair wedi cyhoeddi y bydd y rhan fwyaf o’u hawyrennau nhw’n stopio hedfan yn y saith i 10 diwrnod nesaf.

Dywed rhiant-gwmni British Airways, IAG y bydd capasiti ar gyfer mis Ebrill a Mai yn cael ei dorri “o leiaf 75%” o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Does “dim sicrwydd” y bydd cwmnïau hedfan Ewrop “yn goroesi beth allai fod yn gyfyngiad teithio hirdymor sydd â risg o adferiad araf,” yn ôl EasyJet.

Dywed prif weithredwr EasyJet, Johan Lundgren: “Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wynebu heriau’r coronafeirws.”