Mae unigolyn o Gasnewydd wedi cael prawf positif ar gyfer coronavirus.

Mae’r person yn gweithio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y ddinas, a’r achos wedi cael ei gadarnhau gan y swyddfa honno.

Dywed llefarydd fod y swyddfa’n “cymryd camau priodol i warchod lles ein pobol”.

Mae’r swyddfa’n dal ar agor, wrth iddyn nhw “fonitro gweithrediadau yn unol ag arweiniad swyddogol iechyd cyhoeddus a’r llywodraeth”.