Bydd partneriaeth newydd rhwng Urdd Gobaith Cymru a phrosiect ieuenctid TG Lurgan yn Iwerddon yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn Nulyn heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11).
Mae TG Lurgan yn hyrwyddo’r iaith Wyddeleg drwy ganeuon cyfoes ar eu sianel YouTube ac mae’n nhw’n denu miloedd o wylwyr.
Mae’r lansiad yn rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 sydd yn cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru.
Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth newydd rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn dod â phobol ifanc Cymru ac Iwerddon at ei gilydd i greu cynhyrchiad ar y cyd yn Gymraeg ac yn Wyddeleg er mwyn sicrhau fod y ddwy iaith yn cyrraedd y gynulleidfa ryngwladol ar YouTube.
Yn y lansiad yn Nulyn heddiw, fe fydd aelodau’r Urdd o Aelwyd yr Ynys o Fôn yn cyflwyno perfformiad cerddorol yn debyg i arddull cynyrchiadau TG Lurgan.
‘Ieithoedd deinamig a pherthnasol’
“Mae Urdd Gobaith Cymru a TG Lurgan yn rhannu gweledigaeth o arddangos ein hieithoedd fel yr hyn ydyn nhw – ieithoedd deinamig a pherthnasol” meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd.
“A rhoi hyder i bobl ifanc eu defnyddio’n eang yn eu bywyd bob dydd.
“Pa gyfrwng gwell na cherddoriaeth bop i ledaenu’r gair ac ehangu eu hapêl?
“Rydyn ni’n falch ein bod wedi gallu dangos doniau aelodau’r Urdd yn y lansiad heddiw ac rydyn ni’n gyffrous am y cyfle y mae’r bartneriaeth hon yn ei gynnig i’n haelodau yn y dyfodol.”
Yn croesawu’r fenter newydd hon hefyd fydd Mícheál O’Foighil, Cyfarwyddwr TG Lurgan.
“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r cyfle hwn i weithio gydag Urdd Gobaith Cymru sy’n cyfateb i’n cwrs Gaeltacht,” meddai.
“Mae’r Urdd a Lurgan yn rhannu’r un pwrpas – ymgysylltu gyda phobl ifanc yn eu hiaith eu hunain a datblygu ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb a pherchnogaeth tuag ati.
“Bydd yr antur ieithyddol hon yn hynod ddiddorol i’n myfyrwyr ac maen nhw’n edrych ymlaen.”