Mae Nadine Dorries, gweinidog iechyd yn San Steffan, yn dioddef o coronavirus.
Mae’n dweud mewn datganiad ei bod hi’n ynysu ei hun yn ei chartref ar ôl cael prawf positif.
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â hi yn ddiweddar.
Mae Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn dweud ei bod hi wedi dilyn y camau cywir, ac mae wedi canmol y Gwasanaeth Iechyd a Iechyd Cyhoeddus Lloegr am eu gofal iddi.