Mae Uno’r Undeb yn galw am drafodaethau brys yn sgil pryderon fod 1,250 o swyddi dur yng nghwmni Tata am gael eu colli ledled Ewrop.
Roedd pryderon fis Tachwedd y gallai’r ffigwr fod yn nes at 3,000.
Bryd hynny, dywedodd yr undeb nad oedden nhw’n fodlon derbyn colli swyddi yn safleoedd Port Talbot nac yn unman arall.
Mae’r cwmni’n cyflogi oddeutu 8,500 o weithwyr.
‘Byddwn ni’n ymgyrchu’
Mae’r undeb yn dweud y byddan nhw’n ymgyrchu yn erbyn unrhyw gynlluniau i dorri swyddi o fewn y cwmni.
“Mae Uno’r Undeb yn galw heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10) am drafodaethau brys gyda rheolwyr Tata Steel i ddarganfod yr union oblygiadau i swyddi yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig yng Nghymru lle mae gan y cwmni bresenoldeb mawr,” meddai llefarydd.
“Er bod y ffigwr ar gyfer colli swyddi ledled Ewrop yn ymddangos yn is nag yr oedden ni’n ei feddwl yn wreiddiol, byddwn ni’n ymgyrchu yn erbyn unrhyw swyddi’n cael eu colli.
“Dydyn ni ddim yn credu mai cynlluniau’r cwmni, sydd wedi’u canoli ar dorri costau, yw’r ateb.
“Byddwn ni’n ceisio sicrwydd cadarn am fuddsoddiad a chyflogaeth yn y dyfodol.
“Yr hyn y mae angen i benaethiaid ganolbwyntio arno yw gwyrdroi blynyddoedd o dan-fuddsoddi.
“Rydym yn gwethfawrogi bod diwydiant y Deyrnas Unedig yn parhau i wynebu heriau unigryw, megis costau ynni uchel o’u cymharu â chystadleuwyr Ewropeaidd, ond fyddwn ni ddim yn gadael i un o gonglfeini diwydiant Prydain gael ei leihau ymhellach eto.”
‘Fawr o gysur’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r newyddion fod llai o swyddi na’r disgwyl am gael eu colli.
Ond yn ôl Russell George, llefarydd busnes y blaid, mae hynny’n “fawr o gysur” i’r rhai fydd yn colli eu swyddi.
“Prin iawn yw’r manylion yn yr adroddiad ynghylch lle bydd y swyddi’n cael eu colli, a’r unig beth positif yw nad yw’n 1,000 o swyddi fel roedden ni i gyd yn ei ofni,” meddai.
“Fodd bynnag, mae hyn yn fawr o gysur i’r 500 o bobol allan o’r 6,500 o weithwyr yng Nghymru, a’r cannoedd yn rhagor yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”