Mae canolfan brofi yng Nghaerdydd yn paratoi ar gyfer rhagor o achosion o coronavirus dros yr wythnosau i ddod, yn ôl arbenigwr.
Cafodd canolfan arbennig ei sefydlu yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd i gynnal profion ar bobol sydd wedi’u hamau o fod â’r firws.
Mae’n ymdrin â chyfartaledd o 50 o brofion bob dydd ar hyn o bryd, ond mae’r nifer yn debygol o godi.
Yn ôl Jonathan Evans, prif wyddonydd biofeddygol a rheolwr gweithrediadau’r ganolfan, y firws yw’r “sefyllfa esblygol fwyaf” a welodd yn ei yrfa hyd yn hyn.
“Rydyn ni wedi rhoi pethau yn eu lle i allu ymdopi â’r profion a’r cynnydd sydd yn mynd i ddod,” meddai wrth y Press Association.
“Mae’r niferoedd yn amlwg yn dechrau cynyddu nawr.
“Ac felly mae angen i ni sicrhau nawr fod gyda ni’r gwytnwch a chadernid sydd eu hangen i gyflwyno’r gwasanaeth wrth i ni fynd yn ein blaenau.
“Rydym yn edrych ar 50 o achosion bob dydd fel arfer, ond rydym oll yn ymwybodol fod y nifer yn mynd i godi’n sylweddol dros yr wythnosau nesaf.
“A does dim amheuaeth yn fy meddwl y byddwn ni a’r holl dimau ynghlwm yn barod ar gyfer hynny.
“Mae’n her fel firolegydd rydych chi’n gobeithio na fydd hi fyth yn digwydd, ond yn un rydych chi’n paratoi ar ei chyfer hefyd.
“Un mantra sydd gennym yw i obeithio am y gorau ond i baratoi am y gwaethaf.”
Rhagor o staff?
Mae’n dweud bod trafodaethau ar y gweill ynghylch cyflogi rhagor o staff yn y ganolfan brofi.
Ymhlith y camau sy’n cael eu cymryd mae gofyn i gyn-wyddonwyr ddychwelyd i’r gwaith.
Mae’r ganolfan yn gyfrifol am anfon profion allan i gartrefi pobol, gyda mwy na 90% o brofion wedi’u cynnal yng nghartrefi unigolion.
Mae’n cymryd hyd at dair awr o ddechrau’r prawf i ddarganfod a yw’r unigolyn yn dioddef o’r firws.
Mae canolfan arall wedi’i sefydlu ger swyddfeydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd i drin pobol a all fod wedi’u heintio ac i ddod o hyd i bobol ddaeth i gysylltiad â’r unigolion hynny.
Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn galwadau ffôn er mwyn ateb y galw ychwanegol.