Mae nifer y bobol yng Nghymru â coronavirus wedi codi i 15, ar ôl i’r awdurdodau gadarnhau naw achos newydd sbon.
Mae dau ohonyn nhw wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar, ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y saith arall brofion ar ôl dod i gyswllt ag un o drigolion Castell-nedd Port Talbot sydd wedi profi’n bositif am y firws.
Mae un o’r saith yn byw yng Nghaerdydd, un yn Abertawe a’r pump arall yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae’r awdurdodau bellach yn ceisio adnabod pobol sydd wedi dod i gysylltiad â’r rhai sydd wedi’u heintio.