Mae Boris Johnson wedi goroesi gwrthdystiad o fewn y Blaid Geidwadol yn ymwneud ag ymrwymiad cwmni Huawei yn y rhwydwaith 5G newydd.
Roedd 37 o aelodau seneddol Ceidwadol wedi cefnogi gwelliant gan Syr Iain Duncan Smith yn galw am wahardd “gwerthwyr risg uchel” o’r system ar ôl 2022.
Ond enillodd y Llywodraeth y bleidlais o fwyafrif o 24 – o 306 o bleidleisiau i 282 – er gwaethaf pryderon am risg diogelwch i wledydd Prydain sydd ynghlwm wrth fasnachu â Huawei, sydd â chysylltiadau agos â’r wladwriaeth Tsienïaidd.
Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau eisoes wedi gwahardd Huawei rhag ymwneud â chwmnïau Americanaidd, ac maen nhw’n feirniadol iawn o gynlluniau Llywodraeth Prydain.
“Y realiti, pan ddaw i fater o ddiogelwch yn erbyn cost, yw fod diogelwch yn ennill bob tro, yn fy marn i, oherwydd dw i’n poeni pan ydyn ni’n dechrau peryglu diogelwch,” meddai Iain Duncan Smith.
Roedd Dr Liam Fox, y cyn-Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, hefyd wedi bod yn galw ar Lywodraeth Prydain i “osgoi’r risg” y gallai Tsieina fanteisio ar y rhwydwaith i ysbïo.
Amlinellau camau gweithredu
Cyn y bleidlais, roedd Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Diwylliant, wedi amlinellu mewn llythyr y camau sydd wedi’u cymryd gan Lywodraeth Prydain er mwyn cyfyngu ymrwymiad Huawei yn y rhwydwaith.
Ac fe ddywedodd fod y Llywodraeth yn awyddus i weld y cwmni’n cael ei ddisodli gan gwmnïau eraill yn y pen draw.
“Hoffwn bwysleisio eto fod y Llywodraeth yn glir ynghylch yr heriau yn wyneb Huawei,” meddai.
Mae’n dweud bod y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol eisoes wedi gwahardd Huawei o weithrediadau hanfodol rhwydweithiau 5G ac wedi cyfyngu eu presenoldeb ar y rhwydwaith i 35% o siâr o’r farchnad.
“Mae’r safbwynt yma’n seiliedig ar gyngor diogelwch cynhwysfawr cangen diogelwch seibr GCHQ, y Ganolfan Diogelwch Seibr Genedlaethol,” meddai.