Mae adroddiadau bod un o weithwyr cwmni Sky yng Nghaerdydd yn dioddef o coronavirus.
Fe ddaw wrth i’r ganolfan gau ei drysau tan ddydd Iau er mwyn ei glanhau.
Mae’r gweithiwr yn ynysu ei hun, meddai’r cwmni sydd â chanolfan gyferbyn â phencadlys Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y brifddinas.
“Gwarchod ein pobol yw ein blaenoriaeth ac a fu ein blaenoriaeth, ac felly rydyn ni’n cau’r ganolfan gyswllt heddiw ac yn anfon pawb adref fel rhagofal,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Rydym yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi dod i gyswllt â’n cydweithiwr, a bydd y ganolfan ei hun yn cael ei glanhau’n drylwyr cyn ailagor ddydd Iau.”
Yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, gallai hyd at 80% o’r boblogaeth gael eu heintio â’r firws yn y pen draw.