Mae Leanne Wood yn dweud nad yw dioddefwyr y llifogydd diweddar yn y Rhondda “eisiau gornest weiddi” yn y Siambr.

Daw ymateb Aelod Cynulliad y Rhondda wrth i Janet Finch-Saunders, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol tros Aberconwy, herio’r prif weinidog Mark Drakeford heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10).

Roedd hi’n trafod y llifogydd ar Chwefror 9 pan ddywedodd hi fod Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi cymorth ar y pryd i helpu pobol oedd wedi dioddef yn ardal Llanrwst a bod manylion ynghylch sut i wneud cais “i ddod yn y dyddiau nesaf”.

Ond dywedodd fod pobol yn dal i aros am ganllawiau, a bod hynny’n “annerbyniol”, wrth i sŵn godi yn y cefndir.

Wrth ymateb i’r sŵn, dywedodd Janet Finch-Saunders, “Oes ots gyda chi?”

Aeth yn ei blaen i ofyn i’r prif weinidog egluro “pam eich bod chi wedi bradychu busnesau Llanrwst, pan bo nhw wedi aros mis i weld yr arian”, cyn ychwanegol fod y sefyllfa’n “warth”.

Ymateb Mark Drakeford

Dyma’r ail waith o fewn wythnos i Janet Finch-Saunders ei chael ei hun yn destun ffrae yn y Cynulliad.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Lesley Griffiths nad oedd hi’n “haeddu ateb” ar ôl iddi ei herio hithau am y llifogydd.

Cyferiodd Mark Drakeford at y ffrae honno wrth ateb ei chwestiwn heddiw.

“Mae’n gadael ei hun i lawr am yr ail waith mewn wythnos, wrth ddefnyddio’r fath iaith wrth ofyn y cwestiwn hwnnw i fi,” meddai.

“Bydd cymorth ar gael, ond dim ceiniog gan ei Llywodraeth hi,” meddai wedyn, wrth ladd ar Lywodraeth Prydain.

“Mae hi’n sôn am fis, ond ble’r oedd ei Llywodraeth hi? Dim ceiniog.

“Meddyliwch am hynny cyn gwneud y fath cyhuddiadau yn y dyfodol.”

Mae’n dweud y dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am arian yn sgil llifogydd gysylltu â Busnes Cymru, cyn ategu nad ydy “ei Llywodraeth hi wedi gwneud dim” am y sefyllfa.

Ymateb Leanne Wood

A hithau’n codi i ofyn cwestiwn, lleisiodd Leanne Wood ei barn ar y mater.

“Dw i’n siŵr mai’r peth diwetha’ mae pobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd eisiau ei weld yw gornest weiddi yn y Siambr yma,” meddai.