Mae banciau bwyd gwledydd Prydain yn prysur redeg allan o nwyddau hanfodol wrth i’r cyhoedd brynu mewn panig, yn ôl y Guardian.

Mae nifer y rhoddion i fanciau bwyd wedi disgyn ers i’r coronavirus gyrraedd gwledydd Prydain ac mae staff yn annog pobol i feddwl dwywaith cyn prynu llu o nwyddau.

Dywed rhai cyfleusterau y bydd yn rhaid iddyn nhw gau yn sgil pryderon am yr haint, ac mae banciau bwyd eraill yn rhybuddio y bydd maint eu parseli bwyd yn gorfod lleihau’n sylweddol yn sgil diffyg nwyddau.

Dosbarthodd banciau bwyd yn y Deyrnas Unedig dros 1.6m o barseli y llynedd, yn ôl ffigyrau’r Trussell Trust, sydd â 428 banc bwyd yn eu rhwydwaith.

Mae banciau bwyd annibynnol yn dibynnu ar roddion bwyd ac arian, gan ddefnyddio’r arian i brynu rhagor o nwyddau o archfarchnadoedd.

Dywed nifer o’r rhain fod y cyhoedd yn prynu mewn panig wedi ei gwneud hi’n amhosib prynu’r nifer angenrheidiol o nwyddau hanfodol sydd eu hangen ar y bobol sy’n defnyddio banc bwyd.

Serch hynny, mae golwg360 wedi cysylltu â sawl banc bwyd yng Nghymru sy’n dweud nad ydyn nhw’n wynebu’r fath broblemau, ac rydym wedi gofyn i’r Trussell Trust am ymateb.