Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod £2.5 miliwn o gyllid brys ar gael i gefnogi busnesau sydd wedi ei effeithio gan lifogydd diweddar.
Gweinyddir y gronfa gan Business Wales a bydd yn cefnogi busnesau gyda chostau adfer uniongyrchol sydd ddim yn dod dan yswiriant fel cost rhent neu er mwyn cyflogi staff.Bydd busnesau sydd wedi eu heffeithio’n ddifrifol gan lifogydd a achoswyd gan Storm Ciara a Denis yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £2,500 o’r gronfa.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar fod hyd at £10 miliwn ar gael ar gyfer yr ymateb cychwynnol i’r llifogydd ac mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o’r pecyn cymorth hwnnw.
‘Darlun clir’
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’r stormydd diweddar a’r llifogydd wedi effeithio’n ddifrifol ar gymunedau a busnesau.
“Rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd hyd at £2.5 miliwn ar gael er mwyn cefnogi busnesau, ac yn benodol fusnesau bach a chanolig, sydd wedi dioddef yn ddifrifol yn sgil y llifogydd.
“Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y cyllid a gaiff ei ddarparu er mwyn ysgwyddo costau cymwys Awdurdodau Lleol wrth iddynt gynnig rhyddhad rhag ardrethi busnes yn sgil y llifogydd.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio’n agos â Chynghorau er mwyn sicrhau darlun clir o raddfa’r difrod. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws pennu faint o gyllid ychwanegol sydd ei angen a pha gymorth ariannol y byddai disgwyl i Lywodraeth y DU ei ddarparu.”