Fe fydd gweithwyr yn gallu hawlio tâl statudol ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb o’r gwaith yn sgil coronavirus.

Daeth cadarnhad o’r ddeddfwriaeth frys gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fel rhan o ymateb y llywodraeth i’r sefyllfa.

 

Mae’n galw ar bobol i barhau i ynysu eu hunain, gan fod hynny’n “helpu i’n gwarchod ni i gyd drwy arafu lledu’r firws”.

 

“Os ydyn nhw’n aros adref a’n bod ni’n gofyn i bobol ynysu eu hunain, mae’n bosib y byddan nhw’n colli allan yn ariannol,” meddai wrth aelodau seneddol.

 

“Felly gallaf gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 4) y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd [Matt Hancock] yn cyflwyno mesurau, fel rhan o’n deddfwriaeth frys ar coronavirus, er mwyn awdurdodi tâl salwch statudol o’r diwrnod cyntaf un y byddwch chi’n sâl, yn hytrach na phedwar diwrnod y rheolau presennol, a dw i’n credu mai dyna’r ffordd orau ymlaen.

 

“Ddylai neb orfod cael eu cosbi am wneud y peth iawn.”