Mae Urdd Gobaith Cymru yn dweud eu bod nhw’n “monitro sefyllfa” coronavirus, sy’n datblygu’n ddyddiol.
Mae disgwyl i’r firws fod ar ei anterth erbyn mis Mai, pan fydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn cael ei chynnal (Mai 25-30).
A gyda phlant yn teithio’n rheolaidd i wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan Llyn, bydd angen i’r Urdd fod yn wyliadwrus o unrhyw ddatblygiadau coronavirus.
“Mae’r Urdd yn monitro’r sefyllfa yn barhaus ac yn gwrando ar gyngor arbenigol ar y mater,” meddai’r Urdd.
“Mae gan ein gwersylloedd gynlluniau gweithredu yn eu lle i ddelio gydag unrhyw sefyllfa allai godi.
“Mae’r un peth yn wir am ddigwyddiadau yn enw’r Urdd a byddwn yn cysylltu’n syth gyda’n rhanddeiliaid os oes unrhyw newydd am hyn.”
Y sefyllfa yng Nghymru
Dim ond un achos o coronavirus sydd wedi ei ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn, sef dyn o Abertawe oedd wedi teithio’n ôl o ogledd yr Eidal.
Anogodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y cyhoedd i “barhau yn ôl yr arfer” echdoe (dydd Llun, Mawrth 2) yn dilyn yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru ddydd Gwener (Chwefror 28).
Ond mae pedair uned arbenigol wedi eu sefydlu i ddelio â’r firws, un i bob gwlad yn y Deyrnas Unedig.
Ac mae holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig yn annog pobol i olchi eu dwylo am o leiaf ugain eiliad yn rheolaidd.