Mae’r band Genesis wedi cyhoeddi y byddan nhw’n teithio am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd – ond fyddan nhw ddim yn dod i Gymru.
Ond byddan nhw’n teithio yn Iwerddon, Lloegr a’r Alban.
Mae’r daith yn dechrau yn Nulyn ar Dachwedd 16 ac yn gorffen yn Glasgow ar Ragfyr 11.
Mae Genesis yn un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus erioed, gydag oddeutu 100 miliwn o’u halbyms wedi gwerthu ledled y byd.
Daeth y band yn ôl at ei gilydd yn 2007 ar ôl bron i ddeng mlynedd ar gyfer eu taith Turn It On Again.
Bydd tocynnau’r daith ar werth am 9 o’r gloch fore Gwener (Mawrth 6).
Manylion y daith yn llawn
Dydd Llun, Tachwedd 16 Dulyn, 3 Arena
Dydd Iau, Tachwedd 19 Belffast, SSE Arena
Dydd Llun, Tachwedd 23 Lerpwl, M&S Bank Arena
Dydd Iau, Tachwedd 26 Newcastle, Utilita Arena
Dydd Sul, Tachwedd 29 Llundain, The O2
Dydd Llun, Tachwedd 30 Llundain, The O2
Dydd Mercher, Rhagfyr 2 Leeds, First Direct Arena
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 5 Birmingham Utilita Arena
Dydd Mawrth, Rhagfyr 8 Manceinion, Manchester Arena
Dydd Gwener, Rhagfyr 11 Glasgow, SSE Hydro