Bydd y gyfres deledu boblogaidd Spitting Image yn dychwelyd i’r sgrîn fach – gyda Boris Johnson, Yr Arlywydd Trump… a Beyonce ymhlith y cymeriadau newydd.
Bydd y gyfres newydd yn cael ei darlledu fis Hydref ar wasanaeth BritBox, gwasanaeth ffrydio newydd y BBC ac ITV.
Dyma fydd y gyfres wreiddiol gyntaf i gael ei chomisiynu gan BritBox.
Yn ei anterth, roedd pypedau Margaret Thatcher, Ronald Regan ac wrth gwrs, John Major fel y pyped llwyd yn denu 15 miliwn o wylwyr.
Bydd cyd-grewr y rhaglen, Roger Law, a oedd yn gyfrifol am 18 o gyfresi rhwng 1984 a 1996 yn dychwelyd i gynhyrchu’r gyfres newydd.
‘Rhaglen y bobol’
“Rhaglen y bobol fydd hi!” meddai Roger Law.
“Byddwn yn cymryd rheolaeth yn ôl gan rai fel BoJo, Trump, Harry a Meghan, Elon Musk a Kim Kardashian.
“Byddwn yn cael ein syfrdanu gan Jurgen Klopp a Beyonce, ac yn cael diweddariadau tywydd rheolaidd gan ein gohebydd crwydrol Greta Thunberg.
“Mae’r amseru’n iawn, mae’r pypedau’n barod, mae’r bobl wedi siarad.”
“Rydyn ni wrth ein boddau y gall BritBox roi cyfle i greadigrwydd Prydain redeg yn wyllt go iawn,” meddai Kevin Lygo, pennaeth creadigol BritBox Originals a’r cyfarwyddwr teledu gydag ITV.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddenu tanysgrifwyr newydd i’r gwasanaeth newydd.”