Mae’r artistiaid Sean Corcoran a Marc Treanor, wedi dod at ei gilydd i greu gwaith celf ar lannau Cymru ac Iwerddon i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi fel rhan o Wythnos Cymru gyntaf Iwerddon.
Mae’r celf tywod ar Draeth Kilmurrin yn sir Waterford, ac ym mae Whitesands yn Nhyddewi yn dangos aderyn cenedlaethol Cymru, y barcut coch, ac yn cynrychioli’r cysylltiad diwylliannol rhwng y ddwy wlad.
Creodd Sean Corcoran ei Farcud Coch gan ddefnyddio ei gribin gardd am dros bedair awr, a chwblhaodd Marc Treanor ei gampwaith e mewn pum awr.
Mae’r Barcut Coch bellach yn ffynnu yn y ddwy wlad, a’r adar yn cael eu hallforio o Gymru i Iwerddon fel rhan o raglen ailgyflwyno ac am y tro cyntaf ers dros 200 o flynyddoedd, mae modd gweld yr adar ar yr Ynys Werdd.
Cafodd y gwaith celf ei gomisiynu i ddathlu’r Wythnos Cymru gyntaf erioed yn Iwerddon, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Mawrth 9 – 13.
Bydd y digwyddiad yn dathlu’r celfyddydau, diwylliant, cerddoriaeth, iaith a materion ieuenctid.