Mae’r cwmni siocled Snickers o dan bwysau ar ôl i’w cyfrif Trydar Prydeinig ofyn i ddarllenwyr ddyfalu “enw lle yng Nghymru neu wedi eistedd ar fysellfwrdd?”, yn ôl adroddiadau.

Roedden nhw wedi bod yn trydar enwau llefydd Cymreig megis Penmaenmawr a Rhosllanerchrugog, ond wedi ei sillafu’n anghywir fel “Rhosullanrugog.”

Bu ymateb negyddol i’r trydariadau yn syth, gydag un cwsmer yn annog y cwmni i “ail-feddwl hyn – mae yno dair miliwn ohonom ni ac rydych ar fin ein colli fel cwsmeriaid”.

“Ddim yn targedu’r farchnad Gymreig felly?” holodd dyn o’r enw Elfyn Henderson.

Tra bod Adam Davies wedi ymateb drwy drydar: “Dylech chi gael gwared â phwy bynnag oedd yn meddwl bod hyn yn syniad da. Maen nhw’n ffwl.”

Cafodd y trydariadau eu cyhoeddi cyn 12 o’r gloch a’u dileu yn gyflym wedyn.